Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 3
Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 6
Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 4
Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 7
Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 8
Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 2
Coffee and Arts Mahoneys Rhyl 5

Mahoney’s

O Ysgythru Gwydr, i Fodelu Clai, Paentio Dŵr Lliw, i Baentio Cerrig, mae gan Mahoney’s raglen brysur bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cliciwch yma i wirio beth sydd ymlaen bob dydd.

Dewch i Mahoney’s, 82 Marsh Road, Rhyl LL18 2AE neu ffoniwch: 01745 779100

Mae croeso i bawb (16 oed a hŷn). Ydych chi’n barod i fynd i’r afael â rhywbeth newydd? I gael hwyl ac arbrofi? I gymryd cam i fyd gweledol creadigrwydd?

Neu efallai eich bod chi ond eisiau siarad â phobl o’r un anian sydd â phrofiadau tebyg i’ch rhai chi? Mae ein Gweithwyr Cymorth a Gwirfoddolwyr yma hefyd i helpu os oes angen i chi siarad â rhywun yn breifat.

Mae’r grŵp yn cyfarfod bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae sesiynau bore dydd Llun yn rhedeg o 10.00 i 12.00 ac ar gyfer coffi a sgwrs yn unig ac mae sesiynau prynhawn dydd Iau ar gyfer aelodau newydd a hyn o 1.00 i 3.00pm.

Mae sesiynau bore a phrynhawn dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yn Gelfyddydau a Chrefft (cliciwch yma i weld ein tudalen Beth sydd Ymlaen am fanylion pellach!)

Lleoliad: Mahoney’s, 82 Marsh Road, Rhyl LL18 2AE

Ffôn: 01745 779100

Galwch heibio i’r grŵp pan fydd ymlaen a chewch groeso cynnes gan ein tîm (nid oes angen archebu ymlaen llaw).
Efallai y byddwch eisiau dod â photel ddŵr gyda chi, byddwn yn darparu popeth arall y gallech ei angen.