Swîpstec Bysedd Gwyrdd
Dewiswch eich planhigyn ffefryn ac anogwch eich ffrindiau i hau hadau ar yr un pryd â chi.
Gofynnwch iddyn nhw am rodd, ac, dros amser, gallwch wylio eich hadau’n newid o hadau bach i blanhigion llawn tyfiant.
Mae garddwr y planhigyn sy’n dwyn ei ffrwyth neu ei flodyn cyntaf yn ennill hanner y rhodd swîpstec, a gallwch roi’r hanner arall i Mind Dyffryn Clwyd.
Gallwch hyd yn oed gystadlu ar bwy sy’n gweld egin gwyrdd yn gyntaf!
Sefydlwch dudalen JustGiving a gofynnwch am rodd i bobl ymuno.
Mae eich help yn hynod bwysig ac yn ein helpu i gefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd gyda’u lles meddyliol.




